Wauntrefalau, Tan-y-groes, Aberteifi, SA43 2HR
O gyffordd Gogerddan ar yr A487 yn Nhan-y-groes, cymerwch y B4333 i gyfeiriad Aber-porth. Ar ôl troi wrth y groesffordd, ewch heibio i fynedfa’r Gogerddan Arms ac o amgylch y cornel a chymerwch y troad cyntaf ar y dde i lawr lôn y ffarm wrth ymyl yr iard fawr ar gyfer lorïau. Dilynwch y lôn nes cyrraedd iard y fferm.
Llun CLOSED
Maw 9am – 5pm
Mer Closed
Iau 9am - 6pm
Gwe 9am – 6pm
Sad 9am – 5pm
Sul CLOSED
Gweld Cigoedd Ffres Fferm Golwg y Môr ar fap mwy o faint
Fferm deuluol yw Golwg y Môr, sy’n edrych dros Fae hardd Bae Ceredigion a lle mae ein hanifeiliaid yn mwynhau pori’n dawel ar borfa wyrdd Cymru. Canlyniad hynny yw cig sy’n fwy brau o lawer ac sydd â blas ardderchog. Caiff ein hanifeiliaid i gyd eu magu’n unol â chynllun sicrhau ansawdd priodol, a’u lles nhw yw ein prif flaenoriaeth. Mae ein stoc wedi ennill gwobrau ym mhob cwr o’r wlad. Erbyn hyn mae’r fferm yng ngofal ail genhedlaeth y teulu Thomas ac mae’r drydedd genhedlaeth yn awchu am gymryd yr awenau. Penderfynodd Elfed a Sheena, gyda help Paul sydd â thros 30 mlynedd o brofiad fel cigydd, arallgyfeirio’r busnes drwy agor y Siop Fferm yn 2007 i werthu cig, cynnyrch cig, pasteiod a chacennau cartref o safon. Mae’r holl gynnyrch arall yr ydym yn ei werthu yn dod o’r ardal leol.
Rydym yn cyflenwi cig o safon uchel yn rheolaidd i sawl bwyty a siop leol. Mae modd trefnu bod ein cig yn cael ei anfon atoch drwy’r post hefyd.
Cynhyrchwyr
Cliciwch isod i weld ein rhestr lawn o gynhyrchwyr ledled Ceredigion
Gweld rhestr lawn o’r cynhyrchwyr >
Heb ddewis unrhyw gynhyrchwyr